Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022

 

Pwynt Craffu Technegol 1:Yn Ymateb y Llywodraeth i Adroddiad y Pwyllgor dyddiedig 24 Hydref 2022, esboniodd Llywodraeth Cymru y byddai’n ceisio cywiro’r gwall hwn drwy slip cywiro cyn gynted â phosibl. Mae Cofrestrydd yr OSau bellach wedi cadarnhau nad yw slip cywiro yn briodol ar gyfer cywiro’r newid yn y teitl. Bydd Offeryn Statudol sy’n cywiro yn cael ei wneud felly yn hytrach na slip cywiro.

 

Pwynt Craffu Technegol 2:Y bwriad oedd defnyddio slip cywiro i gywiro’r gwall hwn. Fodd bynnag, gan fod Offeryn Statudol sy’n cywiro yn cael ei wneud i ymdrin â phwynt craffu technegol 1, bydd yr Offeryn Statudol sy’n cywiro yn ymdrin â phwynt craffu technegol 2 hefyd.